Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Mai 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(30 munud)
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:
Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o Islamoffobia?
(5 munud)
NDM7056 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
(60 munud)
NDM7053 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019.
(60 munud)
NDM7055 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
2. Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn economi Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan gynnwys:
a) symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;
b) sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol;
c) diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig;
d) uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac
e) gwella seilwaith.
Ffyniant i bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:
a) 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;
b) cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;
c) ostyngiad o dros hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d) y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;
e) y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.
2. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.
3. Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
5. Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a
b) deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar wariant.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
(30 munud)
NDM7054 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Anadlu'n haws yng Nghymru: Gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint a rhoi'r gorau i smygu.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019